Croeso i Ysgol Botwnnog

Adroddiad Arolygiad Estyn ar gael ar y Dudalen Newyddion

Mae Ysgol Botwnnog yn ysgol hapus sy'n cynnig addysg o safon, yn morol am ganlyniadau da a hefyd am feithrin a datblygu talentau a doniau pobl ifanc Llŷn.

Croeso cynnes i'ch mab/merch ac i chithau fel rhieni i Ysgol Botwnnog. 'Rwy'n hyderus y daw eich plentyn / plant a chithau i weld fod "hen" ysgol Botwnnog yn ysgol arbennig ac mai gwir yw geiriau "Cân yr Ysgol" gan y diweddar Mr. Gruffydd Parry.

"O'r Sarn ac Aberdaron
Tudweiliog, Abersoch
O'r Rhiw neu o Lanengan
O ba le bynnag boch.
Yr ysgol orau welwyd
Fe wyddwn ni bob un,
Yw'r ysgol ym Motwnnog
Hen ysgol hogia (a genod) Llŷn".

Er bod y manylion yn y ddogfen hon yn gywir pan gyhoeddir hwy, ni ellir rhagdybio na fydd unrhyw newid a all effeithio ar y trefniadau perthnasol cyn dechrau neu yn ystod y flwyddyn ysgol neu mewn blynyddoedd i ddod.

Dylan Minnice
Prifathro