Newyddion
Bwletin Ebrill 2018
Bwletin Ionawr 2018
Bwletin Medi 2017
Bwletin Medi 2016
Bwletin Ebrill 2016
Bwletin Ionawr 2016
Bwletin Medi 2015
Bwletin Ebrill 2015
Bwletin Ionawr 2015
Newyddion Mis Ionawr 2015
Trefnwyd sesiynau blasu i blant Blwyddyn 6 yn yr ysgol yn ddiweddar. Cafwyd cyfle i gymryd rhan mewn gwersi Technoleg, Ffrangeg a Technoleg Gwybodaeth ac i ddod yn gyfarwydd â bywyd am ddiwrnod yn yr Ysgol Uwchradd.
Newyddion Mis Tachwedd 2014
Ar ddiwedd yr haf daeth y cerddor, a’r cyn ddisgybl Al Lewis i ymweld â’r ysgol. Pob blwyddyn mae gwobr Goffa er cof am ei dad Mr Lewis Roberts yn cael ei gyflwyno ganddo, a’r enillydd eleni am ei waith rhagorol ym Maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg oedd James Pearson o Abersoch. Llongyfarchiadau i ti James a diolch i Mr Al Lewis am ei gyfraniad.
Bwletin Medi 2014
Newyddion Mis Medi 2014
Daeth mis Medi, daeth y gwyliau haf i ben a daeth y tywydd cynnes. Daeth yn amser croesawu pawb yn ôl i’r ysgol a chroesawu rhai am y tro cyntaf. Disgyblion Blwyddyn 7 gobeithio eich bod yn setlo yma, felly hefyd dau athro newydd sydd wedi ymuno â ni y tymor yma. Mae Mr. Gareth Hodgson o Chwilog wedi ymuno â’r Adran Chwaraeon a Mr. Cai Boardman sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mhwllheli wedi ymuno â’r Adran Wyddoniaeth. Croeso cynnes i’r ddau ohonoch i Ysgol Botwnnog.
Bwletin Mai 2014
Newyddion Mis Chwefror 2014
Mae mis Ionawr wedi bod yn un prysur iawn yma yn Ysgol Botwnnog gyda llawer o weithgareddau a digwyddiadau. Roedd y Clwb Garddio wedi derbyn grant gan Ymddiriedolaeth Edina wedi ei anelu i wella cynefin bywyd gwyllt.
Penderfynwyd defnyddio’r arian i blannu gwrych o lwyni addas i gysgodi’r gwlâu llysiau rhag y gwynt ac i blannu mwy o amrywiaeth o goed ffrwythau ...
Darllen Mwy - cliciwch yma.
Bwletin Tymor y Gwanwyn 2014
I lawrlwytho Adobe Reader - cliciwch yma

Newyddion Mis Rhagfyr 2013
Cafodd criw o ddisgyblion gyfle i fynychu diwrnod yng Nghanolfan Chwaraeon Caernarfon wedi ei drefnu gan y Cyngor Sir drwy Ms Shoned Owen. Roedd cyfle i roi cynnig ar wahanol fathau o gemau a chyfleoedd cadw’n heini. Yn ôl Catrin Roberts o Flwyddyn 10: “Roedd yn ddiwrnod da, cyfle i drio rhywbeth newydd a chyfarfod â disgyblion o ysgolion eraill... "
Newyddion Mis Tachwedd 2013
Eleni penderfynodd Blwyddyn 11 gynnal y Noson Goffi flynyddol ar nos Fercher, 6 Tachwedd, 2013. Mae llawer o waith paratoi i’w wneud er mwyn i’r noson fod yn llwyddiant. Gan fod y Noson Goffi yn cyfrannu at ein astudiaethau BAC, bedair wythnos yn ôl bellach cynhaliwyd gweithdy a oedd yn para drwy’r dydd i holl ddisgyblion Blwyddyn 11 i drefnu gweithgareddau.
Newyddion Mis Hydref 2013
Mae’n bosib iawn fod y rhai ohonoch fu’n ddisgyblion yma yn y 1960au neu’r 70au yn cofio oriel yr anfarwolion ar wal yr Ystafell Gymraeg. Lluniau o feirdd a llenorion mawr ein cenedl ac yn eu plith un oedd wedi bod yn gyn-athro yma yn Ysgol Botwnnog, sef Waldo Williams. A dyna beth wnaeth i Gymdeithas Waldo o Sir Benfro gysylltu â’r ysgol yn ddiweddar i drefnu noson i ddathlu canmlwyddiant ei eni ar y cyd â Chyfeillion Llŷn a’r ddarlith flynyddol.
Newyddion Mis Medi 2013
Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion o Flwyddyn unarddeg y llynedd ar eu canlyniadau gwych yn yr arholiadau TGAU. Diolch i’r disgyblion am eu gwaith
caled, y rhieni am eu cefnogaeth ac i’r staff am eu paratoi mor drwyadl. Pob dymuniad da i’r dyfodol.