Rhieni

Ysgol gyfun ddwyieithog ydyw Ysgol Botwnnog, ac mae hi'n gartref addysgol i dros bum cant o ddisgyblion o bob gallu rhwng 11 a 16 oed. Mewn awyrgylch hapus a chartrefol, bydd ein disgyblion yn dilyn cwricwlwm eang, cytbwys, a diddorol sy'n berthnasol i'w datblygiad academaidd, galwedigaethol a chymdeithasol. Yn ogystal รข nifer helaeth o weithgareddau allgyrsiol, mae traddodiad yn Ysgol Botwnnog o ofalu'n dda am ein disgyblion. Mae'n disgwyliadau ni yn uchel ac mae'n disgyblion yn ymateb yn gadarnhaol i hynny o ran perfformiad addysgol, ymddygiad, hunan-ddisgyblaeth a hunan hyder.