Diogelwch Arlein

CADW EICH PLENTYN YN DDIOGEL AR LEIN

Ydych chi’n poeni fod eich plentyn yn gwybod mwy am gyfryngau cymdeithasol (gwefannau, apiau, gemau, ayyb) na chi?
Ydych chi’n ymwybodol o fanteision a pheryglon posibl y cyfryngau hyn?
Ydych chi’n awyddus i gael mwy o wybodaeth am gadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein?

Os ydych, mae llywodraeth Cymru wedi paratoi cyfres o daflenni gwybodaeth i rieni a gofalwyr er mwyn ceisio rhannu gwyboadeth ynglyn â sut mae cadw pobl ifanc yn ddiogel ar-lein.

Isod mae cysylltiadau i’r taflenni hyn.
Gallwch newid iaith drwy glicio ar y botwm  ar dop y dudalen

Ar ol clicio ar y cysylltiad isod bydd dewis ganddoch:

Rhaid clicio ar PDF neu Lansio er mwyn gweld y daflen briodol.

Canllawiau diogelwch ar-lein Net Aware

Mae’r NSPCC wedi dewis 10 o’r gwefannau, apiau a gemau mwyaf poblogaidd o Net Aware ac wedi creu cyfres o sleidiau yn trafod eu manteision, anfanteision a pheryglon.

Gellir cael adolygiad o lawer mwy o wefannau, apiau a gemau ar wefan Net-aware (dim ond ar gael mewn Saesneg).