CRA

Mae yma Gymdeithas Rhieni a Chyfeillion gweithgar ac mae bob rhiant a gwarcheidwad yn aelod llawn o’r Gymdeithas. Mae gan y Rhieni gynrychiolaeth hefyd ar y Corff Llywodraethol. (Gweler Atodiad IV). Yn ogystal â threfnu nosweithiau cymdeithasol, bydd y Gymdeithas yn trefnu gweithgareddau i godi arian i Gronfa’r Ysgol. Bu’r Gymdeithas yn gyfrifol am brynu loceri i’r plant, llenni i’r Neuadd, Offer Cyfrifiadurol ychwanegol, cyfraniad tuag at fws mini newydd i’r Ysgol, telyn i’r Ysgol, llyfrau ac offer ychwanegol ar gyfer adrannau’r Ysgol.

Cofiwch ‘rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth chi! Bydd yr ysgol a’ch plant yn gwerthfawrogi eich cymorth parod.

Cadeirydd y Gymdeithas: - Mrs. Glesni Owen,
Ysgrifennydd: - Mrs. Carys Evans,
Trysorydd: - Mrs. Nerys Williams.